Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 23 Hydref 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:31 - 12:18 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Rees (Cadeirydd) Leighton Andrews Rebecca Evans William Graham Elin Jones Lynne Neagle Gwyn R Price Lindsay Whittle Kirsty Williams |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Ana Palazon, Gymdeithas Strôc Paul Underwood, Gymdeithas Strôc Lowri Griffiths, Gymdeithas Strôc Dr Anne Freeman, Cymdeithas Ffisigwyr Strôc Cymru, Dr Hamsaraj Shetty, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Dr Yaqoob Bhat, Fwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan Jan Smith, Fwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan Amanda Smith, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Nigel Monaghan, Iechyd Cyhoeddus Cymru Dr Hugo van Woerden, Iechyd Cyhoeddus Cymru Nicola Davis-Job, Coleg Nyrsio Brenhinol Carole Saunders, Coleg Nyrsio Brenhinol Dr Amer Jafar, St Woolos Hospital Dr Philip White, BMA Cymru Wales Mark Drakeford, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Dr Chris Jones, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Madeley (Clerc) Helen Finlayson (Ail Clerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Stephen Boyce (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Ymddiheurodd y Cadeirydd i’r Aelodau a’r tystion am yr oedi cyn dechrau’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar Nododd y Cadeirydd fod Gwyn Price wedi ymddiheuro ar gyfer rhan gyntaf sesiwn y bore.
2 Lleihau’r risg o stôc - ymchwiliad dilynol: Panel 1 - Y sector gwirfoddol
2.1 Oherwydd materion technegol, cafodd eitemau 2 a 3 eu trafod gyda’i gilydd.
2.2 Bu cynrychiolwyr o’r Gymdeithas Strôc a Chynghrair Strôc Cymru yn ateb cwestiynau gan aelodau’r pwyllgor.
2.3 Nododd Lowri Griffiths o’r Gymdeithas Strôc fod yr Athro Marcus Longley o Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cytuno i weithio gyda’r Gymdeithas i ddatblygu asesiad economaidd o wasanaethau strôc yng Nghymru. Hefyd, nododd Ms Griffiths fod Canolfan Ymchwil Clinigol y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd wedi nodi bod cyllid ar gael ei wneud yr asesiad. Cytunodd Ms Griffiths i gyflwyno’r gwaith hwn i’r Pwyllgor ar ôl iddo gael ei gwblhau.
3 Lleihau’r risg o stôc - ymchwiliad dilynol: Panel 2 - Cynghrair Strôc Cymru
3.1 Oherwydd materion technegol, cafodd eitemau 2 a 3 eu trafod gyda’i gilydd.
3.2 Bu cynrychiolwyr o’r Gymdeithas Strôc a Chynghrair Strôc Cymru yn ateb cwestiynau gan aelodau’r pwyllgor.
4 Lleihau’r risg o stôc - ymchwiliad dilynol: Panel 3 - Byrddau Iechyd Lleol / Iechyd Cyhoeddus Cymru
4.1 Bu cynrychiolwyr o fyrddau iechyd lleol a Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ateb cwestiynau gan aelodau’r pwyllgor.
4.2 Nododd Dr van Woerden fod darn o waith penodol yn mynd rhagddo ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ynghylch adsefydlu dioddefwyr dementia fasgwlaidd, ac y byddai manylion y gwaith hwn yn cael eu hanfon at y Pwyllgor.
4.3 Cytunodd Jan Smith, o Fwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan, i ddarparu gwybodaeth i’r Pwyllgor am y gost i Rwydweithiau’r Galon a’r Rhwydweithiau Canser o gyflogi rheolwyr sy’n goruchwylio’r ffordd y caiff pob rhwydwaith ei redeg.
5 Lleihau’r risg o stôc - ymchwiliad dilynol: Panel 4 - Cyrff proffesiynol
5.1 Bu cynrychiolwyr o’r Coleg Nyrsio Brenhinol a Chymdeithas Feddygol Prydain Cymru yn ymateb i gwestiynau gan aelodau’r pwyllgor.
6 Lleihau’r risg o stôc - ymchwiliad dilynol: Panel 5 - Llywodraeth Cymru
6.1 Bu’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dr Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, yn ateb cwestiynau gan aelodau’r pwyllgor.
7 Papurau i’w nodi
7.1 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol: y gyllideb ddiogelu iechyd ac imiwneiddio
7a.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y gyllideb diogelu iechyd ac imiwneiddio.
7.2 Llythyr gan Fwrdd Rhaglen Cynllun De Cymru: gwybodaeth ddilynol o’r cyfarfod ar 3 Hydref
7b.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Fwrdd Rhaglen Cynllun De Cymru.
8 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
9 Y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru): Sesiwn friffio yng Nghyfnod 2
9.1 Cynhaliwyd sesiwn friffio ar weithdrefnau Cyfnod 2 y pwyllgor.